|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD ydy fy mugail i;mae gen i bopeth dw i angen.
2 Mae'n mynd â fi i orwedd mewn porfa hyfryd;
ac yn fy arwain at ddŵr glân sy'n llifo'n dawel.
3 Mae'n rhoi bywyd newydd i mi,
ac yn dangos i mi'r ffordd iawn i fynd.
Ydy, mae e'n enwog am ei ofal.
4 Hyd yn oed mewn ceunant tywyll dychrynllyd,
fydd gen i ddim ofn, am dy fod ti gyda mi.
Mae dy ffon a dy bastwn yn fy amddiffyn i.
5 Rwyt ti'n paratoi gwledd i mi
ac mae fy ngelynion yn gorfod gwylio.
Rwyt ti'n tywallt olew ar fy mhen.
Mae gen i fwy na digon!
6 Bydd dy ddaioni a dy ofal ffyddlon
gyda mi weddill fy mywyd.
A byddaf yn byw eto yn nhŷ'r
ARGLWYDDam byth.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity