|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD piau'r ddaear a phopeth sydd ynddi;y byd, a phawb sy'n byw ynddo.
2 Mae wedi gosod ei sylfeini ar y moroedd,
a'i sefydlu ar ffrydiau'r dyfnder.
3 Pwy sy'n cael dringo mynydd yr
ARGLWYDD?Pwy sy'n cael sefyll yn ei deml sanctaidd? —
4 Yr un sy'n gwneud beth sy'n iawn a'i gymhellion yn bur;
yr un sydd ddim yn twyllo
neu'n addo rhywbeth heb fwriadu ei gyflawni.
ARGLWYDD yn bendithio pobl felly;byddan nhw'n cael eu derbyn
i berthynas iawn gyda'r Duw sy'n achub.
6 Dyma'r math o bobl sy'n cael troi ato:
y rhai sydd eisiau dy gwmni di, O Dduw Jacob.
Saib
7 Giatiau'r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
8 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? —
yr
ARGLWYDD, cryf a dewr,yr
ARGLWYDD sy'n ennill pob brwydr!9 Giatiau'r ddinas, edrychwch!
Agorwch, chi ddrysau tragwyddol,
er mwyn i'r Brenin gwych gael dod i mewn!
10 Pwy ydy'r Brenin gwych yma? —
Yr
ARGLWYDD holl-bwerus!Fe ydy'r Brenin gwych!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity