|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD, dw i'n troi atat ti mewn gweddi.2 Fy Nuw, dw i'n dy drystio di; paid â'm siomi;
paid gadael i'm gelynion gael hwyl ar fy mhen.
3 Does neb sy'n dy drystio di yn cael ei siomi.
Y rhai sy'n twyllo fydd yn methu,
nhw fydd yn cael eu siomi!
ARGLWYDD;dysga dy ffyrdd i mi.
5 Arwain fi ar y ffordd iawn a dysga fi,
achos ti ydy'r Duw sy'n fy achub i.
Dw i'n dibynnu arnat ti bob amser.
ARGLWYDD, cofia dy fod yn Dduw trugarog a ffyddlon —un felly wyt ti wedi bod erioed!
7 Paid dal yn fy erbyn y pechodau
a'r holl bethau wnes i o'i le pan oeddwn i'n ifanc.
Bydd yn garedig ata i,
ARGLWYDD;rwyt ti'n Dduw mor ffyddlon.
ARGLWYDD yn dda ac yn hollol deg,felly mae e'n dangos i bechaduriaid sut dylen nhw fyw.
9 Mae'n dangos y ffordd iawn i'r rhai sy'n plygu iddo
ac yn eu dysgu nhw sut i fyw.
ARGLWYDD bob amser yn ffyddlon,ac mae'r rhai sy'n cadw amodau'r ymrwymiad wnaeth e
yn gallu dibynnu'n llwyr arno.
ARGLWYDD,maddau'r holl ddrwg dw i wedi ei wneud
— mae yna gymaint ohono!
ARGLWYDD yn dangos i'r rhai sy'n ffyddlon iddosut dylen nhw fyw.
13 Byddan nhw'n mwynhau bywyd,
a bydd eu plant yn etifeddu'r tir.
ARGLWYDD yn rhoi arweiniad i'w ddilynwyr ffyddlon;ac mae'n dysgu iddyn nhw oblygiadau'r ymrwymiad wnaeth e.
ARGLWYDD am help bob amser,am mai fe sy'n fy ngollwng i'n rhydd o rwyd y gelyn.
16 Tyrd ata i, bydd yn garedig a helpa fi,
dw i ar fy mhen fy hun, ac yn dioddef.
17 Achub fi o'r helbul dw i ynddo;
gollwng fi'n rhydd o'r argyfwng yma.
18 Edrych arna i'n dioddef mewn poen!
Maddau fy holl bechodau!
19 Edrych gymaint o elynion sydd gen i!
Maen nhw'n fy nghasáu i, ac am wneud niwed i mi!
Paid gadael i mi gael fy siomi,
achos dw i wedi troi atat ti am loches.
21 Amddiffyn fi, am fy mod i'n onest ac yn agored hefo ti;
dw i'n dibynnu arnat ti,
ARGLWYDD!22 O Dduw, gollwng Israel yn rhydd
o'i holl drafferthion!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity