|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD,dw i wedi bod yn onest.
Dw i wedi dy drystio di
ARGLWYDDbob amser.
ARGLWYDD; gosod fi ar brawf!Treiddia i'm meddwl a'm cydwybod.
3 Dw i'n gwybod mor ffyddlon wyt ti —
a dyna sydd yn fy ysgogi i fynd ymlaen.
4 Dw i ddim yn derbyn cyngor gan bobl sy'n twyllo,
nac yn cymysgu gyda rhai sy'n anonest.
5 Dw i'n casáu cwmni dynion drwg,
ac yn gwrthod cyngor pobl felly.
6 Dw i'n golchi fy nwylo'n lân,
ac am gerdded o gwmpas dy allor, O
ARGLWYDD.a dweud am y pethau rhyfeddol wnest ti.
ARGLWYDD, dw i'n caru'r deml lle rwyt ti'n byw;y fan lle mae dy ysblander i'w weld.
9 Paid ysgubo fi i ffwrdd gyda phechaduriaid,
na'm lladd gyda'r bobl dreisgar
10 sydd bob amser yn cynllwyn rhyw ddrwg,
neu'n barod i gynnig breib.
Gollwng fi'n rhydd! Bydd yn garedig ata i!
12 Dw i'n gwybod fy mod i'n saff.
Bydda i'n addoli'r
ARGLWYDD eto gyda'i bobl.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity