|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD yn rhoi golau i mi, ac yn fy achub i;does gen i ofn neb.
Mae'r
ARGLWYDD fel caer yn fy amddiffyn i,does neb yn fy nychryn.
2 Pan oedd dynion drwg yn ymosod arna i
i'm llarpio fel ysglyfaeth —
nhw (y gelynion oedd yn fy nghasáu),
ie, nhw wnaeth faglu a syrthio.
3 Petai byddin gyfan yn dod yn fy erbyn i,
fyddai gen i ddim ofn.
Petai rhyfel ar fin torri allan,
byddwn i'n gwbl hyderus.
ARGLWYDD am un peth —dyma beth dw i wir eisiau:
Dw i eisiau aros yn nhŷ'r
ARGLWYDDam weddill fy mywyd;
i ryfeddu ar haelioni'r
ARGLWYDD,a myfyrio yn ei deml.
5 Bydd e'n fy nghuddio i pan dw i mewn perygl;
bydda i'n saff yn ei babell;
Bydd yn fy ngosod i ar graig ddiogel,
allan o gyrraedd y gelyn.
yn erbyn y gelynion sydd o'm cwmpas.
Bydda i'n cyflwyno aberthau i Dduw, ac yn gweiddi'n llawen.
Bydda i'n canu a chyfansoddi cerddoriaeth i foli'r
ARGLWYDD. ARGLWYDD, gwranda arna i'n galw arnat ti.Bydd yn garedig ata i! Ateb fi!
8 Dw i'n gwybod dy fod ti'n dweud, “Ceisiwch fi!”
Felly
ARGLWYDD, dw i'n dy geisio di!9 Paid troi cefn arna i! Paid gwthio fi i ffwrdd.
Ti sy'n gallu fy helpu i!
Paid gwrthod fi! Paid â'm gadael i.
O Dduw, ti ydy'r un sy'n fy achub i!
10 Hyd yn oed petai dad a mam yn troi cefn arna i,
byddai'r
ARGLWYDD yn gofalu amdana i.11 Dangos i mi sut rwyt ti eisiau i mi fyw, O
ARGLWYDD.Arwain fi ar hyd y llwybr iawn,
achos mae'r rhai sy'n fy nghasáu yn fy ngwylio i.
12 Paid gadael i'm gelynion i gael eu ffordd.
Mae tystion celwyddog yn codi
ac yn tystio yn fy erbyn i.
y bydda i'n profi daioni'r
ARGLWYDDar dir y byw!
ARGLWYDD!Bydd yn ddewr ac yn hyderus!
Ie, gobeithia yn yr
ARGLWYDD!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity