|
|
Salm Dafydd.
ARGLWYDD, arnat ti dw i'n galw!Paid diystyru fi — ti ydy fy nghraig i.
Os gwnei di ddim ateb
bydda i'n siŵr o ddisgyn i'r bedd!
dw i'n erfyn am drugaredd!
Dw i'n estyn fy nwylo
at dy deml sanctaidd.
3 Paid llusgo fi i ffwrdd gyda'r rhai drwg,
y bobl hynny sy'n gwneud dim byd ond drwg.
Maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig
ond does dim byd ond malais yn y galon.
4 Tala yn ôl iddyn nhw am wneud y fath beth!
Rho iddyn nhw beth maen nhw'n ei haeddu!
Cosba nhw!
y ffordd mae'r
ARGLWYDD yn gweithio.Bydd e'n eu bwrw nhw i lawr,
a fyddan nhw byth yn codi eto!
ARGLWYDD!Ydy, mae e wedi gwrando arna i yn erfyn am drugaredd!
ARGLWYDD yn rhoi nerth i mi;mae e'n darian i'm hamddiffyn.
Dw i'n ei drystio fe'n llwyr.
Daeth i'm helpu, a dw i wrth fy modd!
Felly dw i'n mynd i ganu mawl iddo!
ARGLWYDD yn gwneud ei bobl yn gryf.Mae e fel caer yn amddiffyn ac yn achub ei eneiniog, y brenin.
Bendithia dy bobl sbesial!
Gofala amdanyn nhw fel bugail
a'u cario yn dy freichiau bob amser!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity