|
|
Salm gan Dafydd pan oedd yn ffoi oddi wrth ei fab Absalom.Croes
ARGLWYDD, mae gen i gymaint o elynion!Mae cymaint o bobl yn ymosod arna i.
2 Mae cymaint ohonyn nhw'n dweud,
“Fydd Duw ddim yn dod i'w achub e!”
Saib
ARGLWYDD, rwyt ti fel tarian o'm cwmpas.Ti ydy'r Un dw i'n brolio amdano!
Ti ydy'r Un sy'n rhoi hyder i mi.
4 Dim ond i mi weiddi'n uchel ar yr
ARGLWYDD,bydd e'n fy ateb i o'i fynydd cysegredig.
Saib
5 Dw i wedi gallu gorwedd i lawr, cysgu a deffro,
am fod yr
ARGLWYDD yn gofalu amdana i.6 Does gen i ddim ofn y miloedd o filwyr
sy'n ymosod arna i o bob cyfeiriad.
ARGLWYDD!Achub fi, O fy Nuw.
Rho glatsien iawn i'm gelynion i gyd.
Torra ddannedd y rhai drwg.
ARGLWYDD sy'n achub!”Rwyt ti'n bendithio dy bobl!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity