|
|
Salm Dafydd. Cân ar gyfer cysegru'r deml.
ARGLWYDD,am i ti fy nghodi ar fy nhraed;
wnest ti ddim gadael i'm gelynion ddathlu.
ARGLWYDD, fy Nuw,gwaeddais arnat ti
a dyma ti'n fy iacháu i.
ARGLWYDD, codaist fi allan o fyd y meirw;a'm cadw rhag disgyn i'r bedd.
ARGLWYDD, chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon,a'i foli wrth gofio mor sanctaidd ydy e!
5 Dim ond am foment mae e'n ddig.
Pan mae'n dangos ei ffafr mae'n rhoi bywyd.
Gall rhywun fod yn crïo wrth fynd i orwedd gyda'r nos;
ond erbyn y bore mae pawb yn dathlu'n llawen.
a minnau'n meddwl, “All dim byd fynd o'i le.”
7 Pan oeddet ti'n dangos dy ffafr,
ARGLWYDD,roeddwn i'n gadarn fel y graig.
Ond dyma ti'n troi dy gefn arna i,
ac roedd arna i ofn am fy mywyd.
ARGLWYDD,ac yn pledio arnat ti fy Meistr:
9 “Beth ydy'r pwynt os gwna i farw,
a disgyn i'r bedd?
Fydd fy llwch i'n gallu dy foli di?
Fydd e'n gallu sôn am dy ffyddlondeb?
ARGLWYDD,dangos drugaredd ata i.
O
ARGLWYDD, helpa fi!”11 Yna dyma ti'n troi fy nhristwch yn ddawns;
tynnu'r sachliain a rhoi gwisg i mi ddathlu!
12 Felly dw i'n mynd i ganu i ti gyda'm holl galon —
wna i ddim tewi!
O
ARGLWYDD fy Nuw,bydda i'n dy foli di bob amser.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity