|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Dw i'n troi atat ti am loches, O
ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.
Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi.
Achub fi'n fuan!
Bydd yn graig ddiogel i mi,
yn gaer lle bydda i'n hollol saff.
3 Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.
Cadw dy enw da,
dangos y ffordd i mi ac arwain fi.
4 Rhyddha fi o'r rhwyd sydd wedi ei gosod i'm dal i,
Ie, ti ydy fy lle diogel i.
5 Dw i'n rhoi fy mywyd yn dy ddwylo di.
Dw i'n gwybod y gwnei di fy rhyddhau i
achos ti, o
ARGLWYDD, ydy'r Duw ffyddlon.6 Dw i'n casáu'r rhai sy'n addoli eilunod diwerth;
ond dw i'n dy drystio di,
ARGLWYDD.7 Bydda i'n dathlu'n llawen am dy fod ti wedi bod yn ffyddlon.
Ti wedi gweld mor anodd mae hi arna i
ac yn gwybod am yr argyfwng dw i ynddo,
8 Paid gadael i'r gelyn fy nal i;
gad i mi ddianc i le agored.
ARGLWYDD,mae hi'n argyfwng arna i.
Mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder —
fy nghorff i gyd i ddweud y gwir.
10 Dw i'n cael fy llethu gan boen;
mae fy mlynyddoedd yn dod i ben mewn tuchan.
Mae pechod wedi fy ngwneud i'n wan,
ac mae fy esgyrn yn frau.
11 Mae'r holl elynion sydd gen i
yn gwneud hwyl ar fy mhen.
Mae fy ffrindiau yn arswydo;
mae pobl yn cadw draw pan maen nhw'n fy ngweld i ar y stryd.
12 Maen nhw wedi anghofio amdana i, fel petawn i wedi marw!
Dw i'n dda i ddim, fel jar sydd wedi torri.
13 Dw i'n clywed beth maen nhw'n ei sibrwd,
a'r straeon ofnadwy sy'n dod o bob cyfeiriad.
Maen nhw'n cynllwynio yn fy erbyn i;
maen nhw eisiau fy lladd i.
14 Ond dw i'n dy drystio di, O
ARGLWYDD.Dw i'n datgan yn glir, “Ti ydy fy Nuw i!”
achub fi o afael y gelynion sydd ar fy ôl i.
Dangos mor ffyddlon wyt ti! Achub fi!
ARGLWYDD, paid â'm siomi pan dw i'n galw arnat.Gwna i'r rhai drwg gael eu siomi!
Cau eu cegau nhw unwaith ac am byth!
18 Rho daw ar y rhai sy'n dweud celwydd;
y bobl hynny sy'n herio'r rhai sy'n byw'n iawn
ac mor haerllug a dirmygus ohonyn nhw.
19 Ond mae gen ti gymaint o bethau da
i'w rhoi i'r rhai sy'n dy addoli di.
O flaen pawb, byddi'n rhoi'r cwbl iddyn nhw,
sef y rhai sy'n troi atat ti am loches.
20 Rwyt ti gyda nhw, ac yn ei cuddio
rhag y dynion sy'n cynllwynio yn eu herbyn.
Ti'n cysgodi drostyn nhw
ac maen nhw'n saff
rhag y tafodau miniog sy'n ymosod.
ARGLWYDD!Mae wedi bod yn anhygoel o ffyddlon
pan oedd y gelynion yn ymosod.
22 Ro'n i mewn panig, ac yn meddwl,
“Dwyt ti ddim yn gweld beth sy'n digwydd i mi!”
Ond na, pan oeddwn i'n crefu am help
roeddet ti wedi clywed.
ARGLWYDD,chi sy'n ei ddilyn yn ffyddlon!
Mae'r
ARGLWYDD yn amddiffyn y rhai sy'n ffyddlon iddo,ond mae'n talu'n ôl yn llawn i'r rhai sy'n haerllug.
24 Byddwch yn ddewr a hyderus,
chi sy'n credu y bydd yr
ARGLWYDD yn eich ateb chi.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity