|
|
1 Chi rai cyfiawn, canwch yn llawen i'r
ARGLWYDD!Mae'n beth da i'r rhai sy'n byw'n gywir ei foli.
ARGLWYDD gyda'r delyn;canwch iddo ar yr offeryn dectant.
i gyfeiliant hyfryd a bwrlwm llawenydd.
ARGLWYDD yn ei ddweud yn iawn;ac mae'r cwbl mae'n ei wneud yn gywir.
5 Mae e'n caru beth sy'n deg ac yn gyfiawn;
ac mae ei ofal ffyddlon i'w weld drwy'r byd i gyd.
6 Dwedodd y gair, a dyma'r awyr yn cael ei chreu.
Anadlodd, a daeth y sêr a'r planedau i fod.
7 Mae e'n casglu dŵr y moroedd yn bentwr,
ac yn ei gadw yn ei stordai.
ARGLWYDD!Dylai pob person byw ei ofni!
9 Siaradodd, a digwyddodd y peth;
rhoddodd orchymyn, a dyna fu.
ARGLWYDD yn drysu cynlluniau'r cenhedloedd,ac yn rhwystro bwriadau pobloedd.
ARGLWYDD yn ei fwriadu sy'n aros.Mae ei gynlluniau e yn para ar hyd y cenedlaethau.
ARGLWYDD yn Dduw iddiwedi ei bendithio'n fawr,
sef y bobl hynny mae wedi eu dewis yn eiddo iddo'i hun.
ARGLWYDD yn edrych i lawr o'r nefoedd;ac mae'n gweld y ddynoliaeth gyfan.
14 Mae'n syllu i lawr o'i orsedd
ar bawb sy'n byw ar y ddaear.
15 Mae wedi gwneud pawb yn wahanol,
ac mae'n sylwi ar bopeth maen nhw'n ei wneud.
16 Nid byddin fawr sy'n achub y brenin;
na'i gryfder ei hun sy'n achub milwr dewr.
17 Dydy march rhyfel ddim yn gallu ennill brwydr;
er ei fod mor gryf, dydy e ddim yn gallu achub.
ARGLWYDD sy'n gofalu am ei bobl,sef y rhai sy'n credu ei fod e'n ffyddlon.
19 Fe sy'n eu harbed nhw rhag cael eu lladd,
ac yn eu cadw nhw'n fyw mewn cyfnod o newyn.
ARGLWYDD!Fe sy'n ein helpu ni, ac yn darian i'n hamddiffyn.
21 Fe sy'n ein gwneud ni mor llawen!
Dŷn ni'n credu yn ei enw sanctaidd e.
ARGLWYDD, gad i ni brofi dy haelioni,gan ein bod wedi credu ynot ti.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity