|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, gwas yr
ARGLWYDD. Oracl.1 Mae'r duedd i droseddu yn ddwfn yng nghalon un drwg;
does ganddo ddim parch at Dduw o gwbl.
2 Mae e mor llawn ohono'i hun, mae'n ddall
ac yn methu gweld y drygioni i'w gasáu.
3 Mae popeth mae e'n ddweud yn ddrwg ac yn dwyllodrus;
dydy e'n poeni dim am wneud daioni.
4 Mae e'n gorwedd ar ei wely yn cynllwynio;
mae e'n dilyn llwybr sydd ddim yn dda,
ac yn gwrthod troi cefn ar ddrygioni.
ARGLWYDD, mae dy ofal cariadus yn uwch na'r nefoedd;mae dy ffyddlondeb di y tu hwnt i'r cymylau!
6 Mae dy haelioni di mor gadarn a'r mynyddoedd uchel;
mae dy gyfiawnder yn ddwfn fel y moroedd.
Ti'n gofalu am bobl ac anifeiliaid,
ARGLWYDD.7 Mae dy ofal cariadus mor werthfawr, O Dduw!
Mae'r ddynoliaeth yn saff dan gysgod dy adenydd.
8 Maen nhw'n cael bwyta o'r wledd sydd yn dy dŷ,
ac yn cael yfed dŵr dy afon hyfryd di.
9 Ti ydy'r ffynnon sy'n rhoi bywyd;
dy olau di sy'n rhoi'r gallu i ni weld.
10 Dal ati i ofalu am y rhai sy'n ffyddlon i ti,
ac achub gam y rhai sy'n byw'n gywir.
11 Paid gadael i'r rhai balch fy sathru dan draed,
nac i'r rhai drwg fy ngwneud i'n ddigartref.
12 Dw i'n gweld y rhai sy'n gwneud drygioni wedi syrthio!
Dacw nhw wedi eu bwrw i lawr! Maen nhw'n methu codi!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity