|
|
I Iedwthwn Ref , yr arweinydd cerdd. Salm Dafydd.
1 Dyma fi'n penderfynu, “Dw i'n mynd i wylio fy hun
a pheidio dweud dim byd i bechu.
Dw i'n mynd i gau fy ngheg
tra dw i yng nghwmni pobl ddrwg.”
yn brathu fy nhafod a dweud dim.
Ond roeddwn i'n troi'n fwy a mwy rhwystredig.
3 Roedd y tensiwn yno i yn mynd o ddrwg i waeth.
Roeddwn i'n methu ymatal.
A dyma fi'n dweud:
ARGLWYDD, beth ydy'r pwynt?faint o amser sydd gen i ar ôl?
Bydda i wedi mynd mewn dim o amser!
5 Ti wedi gwneud bywyd mor fyr.
Dydy oes rhywun yn ddim byd yn dy olwg di.
Mae bywyd y cryfaf yn mynd heibio fel tarth!”
Saib
6 Mae pobl yn pasio trwy fywyd fel cysgodion.
Maen nhw'n casglu cyfoeth iddyn nhw eu hunain,
heb wybod pwy fydd yn ei gymryd yn y diwedd.
7 Beth alla i bwyso arno, felly, O
ARGLWYDD?Ti dy hun ydy fy unig obaith i!
8 Achub fi rhag canlyniadau fy ngwrthryfel.
Paid gadael i ffyliaid wneud hwyl ar fy mhen.
9 Dw i'n fud, ac yn methu dweud dim
o achos beth rwyt ti wedi ei wneud.
10 Plîs paid dal ati i'm taro!
Dw i wedi cael fy nghuro i farwolaeth bron!
11 Ti'n disgyblu pobl mor llym am eu pechodau,
er mwyn i'r ysfa i bechu ddiflannu
fel gwyfyn yn colli ei nerth.
Ydy, mae bywyd pawb fel tarth!
Saib
ARGLWYDD.Gwranda arna i'n gweiddi am help;
paid diystyru fy nagrau!
Dw i fel ffoadur, yn dibynnu arnat ti.
Fel fy hynafiaid dw i angen dy help.
13 Stopia syllu mor ddig arna i.
Gad i mi fod yn hapus unwaith eto,
cyn i mi farw a pheidio â bod.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity