|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.
1 O Dduw, ateb fi pan dw i'n galw arnat!
Ti ydy'r un sy'n achub fy ngham!
Dw i mewn argyfwng, ond gelli di ddod â fi allan.
Dangos drugaredd ata i, a gwrando ar fy ngweddi.
am faint mae fy enw i gael ei sarhau?
Am faint ydych chi'n mynd i roi'ch bryd ar bethau diwerth,
a dilyn pethau twyllodrus?”
Saib
ARGLWYDD yn cadw'r rhai ffyddlon iddo'i hun!Mae'r
ARGLWYDD yn clywed pan dw i'n galw arno.4 Dylech chi grynu mewn ofn, a stopio pechu!
Myfyriwch ar y peth ar eich gwely, a dechreuwch wylo.
5 Dewch â chyflwyno'r aberthau iawn iddo;
trowch a trystio'r
ARGLWYDD.6 Mae llawer yn gofyn, “Pryd welwn ni ddyddiau da eto?”
O
ARGLWYDD, wnei di fod yn garedig aton ni?7 Gwna fi'n hapus eto, fel yr adeg
pan mae'r cnydau ŷd a grawnwin yn llwyddo.
8 Bydda i'n gallu gorwedd i lawr a chysgu'n dawel,
am dy fod ti, O
ARGLWYDD, yn fy nghadw i'n saff.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity