|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Mae'r un sy'n garedig at y tlawd wedi ei fendithio'n fawr.
Bydd yr
ARGLWYDD yn ei gadw'n saff pan mae mewn perygl. ARGLWYDD yn ei amddiffyn ac yn achub ei fywyd,A bydd yn profi bendith yn y tir.
Fydd e ddim yn gadael i'w elynion gael eu ffordd.
ARGLWYDD yn ei gynnal pan fydd yn sâl yn ei wely,ac yn ei iacháu yn llwyr o'i afiechyd.
ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i,” meddwn i.“Iachâ fi. Dw i'n cyfaddef mod i wedi pechu yn dy erbyn di.”
5 Mae fy ngelynion yn dweud pethau cas amdana i,
“Pryd mae'n mynd i farw a chael ei anghofio?”
6 Mae rhywun yn ymweld â mi, ac yn cymryd arno ei fod yn ffrind;
ond ei fwriad ydy gwneud drwg i mi,
ac ar ôl mynd allan, mae'n lladd arna i.
7 Mae fy ngelynion yn sibrwd amdana i ymhlith ei gilydd,
ac yn cynllwynio i wneud niwed i mi.
8 “Mae'n diodde o afiechyd ofnadwy;
fydd e ddim yn codi o'i wely byth eto.”
9 Mae hyd yn oed fy ffrind agos
— yr un roeddwn i'n ei drystio,
yr un fu'n bwyta wrth fy mwrdd i —
wedi troi yn fy erbyn i!
ARGLWYDD, dangos drugaredd ata i;gad i mi godi eto, i mi gael talu'n ôl iddyn nhw!
11 Ond dw i'n gwybod fy mod i'n dy blesio di:
a fydd y gelyn ddim yn bloeddio ei fod wedi ennill y fuddugoliaeth.
12 Rwyt ti'n fy nghynnal i am fy mod i'n onest gyda ti.
Dw i'n cael aros yn dy gwmni di am byth.
ARGLWYDD, Duw Israel,o hyn ymlaen ac i dragwyddoldeb!
Amen ac Amen.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity