|
|
(Parhad o Salm 42)
Dadlau fy achos yn erbyn pobl anffyddlon.
Achub fi rhag y twyllwyr drwg!
2 Ti ydy fy Nuw i — fy nghaer ddiogel i;
felly pam wyt ti wedi fy ngwrthod?
Pam mae'n rhaid i mi gerdded o gwmpas yn drist,
am fod fy ngelynion yn fy ngham-drin i?
3 Rho dy olau i mi, gyda dy wirionedd,
i'm harwain.
Byddan nhw'n dod â fi yn ôl
at y mynydd sanctaidd lle rwyt ti'n byw.
4 Bydda i'n cael mynd at allor Duw,
y Duw sy'n fy ngwneud i mor hapus.
Bydda i'n dy foli di gyda'r delyn,
O Dduw, fy Nuw.
5 F'enaid, pam wyt ti'n teimlo mor isel?
Pam wyt ti mor anniddig?
Rho dy obaith yn Nuw!
Bydda i'n moli Duw eto
am iddo ymyrryd i'm hachub i!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity