|
|
I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Ar yr alaw “Y Lilïau” gan Feibion Cora. Cân serch.
1 Mae gen i destun cerdd hyfryd yn fy ysbrydoli.
Dw i am adrodd fy marddoniaeth i'r brenin;
Mae fy nhafod fel ysgrifbin yn llaw awdur profiadol.
2 Ti ydy'r dyn mwya golygus sydd,
ac mae dy eiriau mor garedig.
Mae'n dangos fod Duw wedi dy fendithio di bob amser.
3 Gwisga dy gleddyf ar dy glun, O ryfelwr!
Dangos dy ysblander a dy fawredd.
4 Dangos dy fawredd! Dos allan i ennill buddugoliaeth!
Marchoga dros y gwir a thros gyfiawnder.
Trwy dy nerth byddi'n cyflawni pethau rhyfeddol!
yn trywanu calonnau dy elynion,
a bydd pobloedd yn syrthio wrth dy draed.
6 Byddi di, O Dduw, yn frenin ar yr orsedd am byth;
a byddi di'n teyrnasu mewn ffordd sy'n deg.
7 Ti'n caru beth sy'n iawn ac yn casáu drygioni;
felly mae Duw, ie dy Dduw di, wedi dy eneinio di
a thywallt olew llawenydd arnat ti fwy na neb arall.
8 Mae arogl hyfryd myrr, aloes a casia
ar dy ddillad i gyd.
Mae offerynnau llinynnol o balasau ifori
yn cael eu canu i dy ddifyrru di.
9 Mae tywysogesau ymhlith dy westeion,
ac mae dy briodferch yn sefyll wrth dy ochr,
yn gwisgo tlysau o aur coeth Offir. Ref
Gwrando'n astud!
Anghofia dy bobl a dy deulu.
11 Gad i'r brenin gael ei hudo gan dy harddwch!
Fe ydy dy feistr di bellach, felly ymostwng iddo.
12 Bydd pobl gyfoethog Tyrus yn ceisio dy ffafr,
ac yn dod ag anrhegion i ti.
13 Mae'r dywysoges yn anhygoel o hardd,
a'i gwisg briodas wedi ei brodio gyda gwaith aur manwl.
14 Mae hi'n cael ei harwain at y brenin,
ac mae gosgordd o forynion yn ei dilyn,
i'w chyflwyno i ti.
15 Maen nhw'n llawn bwrlwm wrth gael eu harwain
i mewn i balas y brenin.
16 Bydd dy feibion yn dy olynu yn llinach dy hynafiaid,
ac yn cael eu gwneud yn dywysogion yn y wlad.
17 Bydda i'n coffáu dy enw di ar hyd y cenedlaethau,
a bydd pobloedd yn dy ganmol di am byth bythoedd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity