|
|
I'r arweinydd cerdd. Cân i leisiau merched ifanc, gan feibion Cora.
1 Mae Duw yn ein cadw ni'n saff ac yn rhoi nerth i ni.
Mae e bob amser yna i'n helpu pan mae trafferthion.
2 Felly fydd gynnon ni ddim ofn
hyd yn oed petai'r ddaear yn ysgwyd,
a'r mynyddoedd yn syrthio i ganol y môr
3 gyda'i donnau gwyllt yn troelli ac yn ewynnu.
Mae'r mynyddoedd yn crynu wrth iddo ymchwyddo!
Saib
4 Y mae afon! Mae ei chamlesi yn gwneud dinas Duw yn llawen.
Ie, y ddinas lle mae'r Duw Goruchaf yn byw.
5 Mae Duw yn ei chanol — fydd hi byth yn syrthio!
Bydd Duw yn dod i'w helpu yn y bore bach.
6 Mae gwledydd mewn cyffro, a theyrnasoedd yn syrthio.
Pan mae Duw yn taranu mae'r ddaear yn toddi.
ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib
ARGLWYDD wedi ei wneud;y difrod rhyfeddol mae wedi ei ddwyn ar y ddaear!
9 Mae'n dod a rhyfeloedd i ben drwy'r ddaear gyfan;
Mae'n malu'r bwa ac yn torri'r waywffon,
ac yn llosgi cerbydau rhyfel mewn tân.
10 “Stopiwch! Mae'n bryd i chi ddeall mai Duw ydw i!
Dw i'n llawer uwch na'r cenhedloedd;
dw i'n llawer uwch na'r ddaear gyfan.”
ARGLWYDD holl-bwerus gyda ni!Mae Duw Jacob yn gaer ddiogel i ni!
Saib
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity