|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.
1 Holl bobloedd y byd, curwch ddwylo!
Gwaeddwch yn llawen wrth addoli Duw!
ARGLWYDD Goruchaf yn Dduw i'w ryfeddu,ac yn Frenin mawr dros y byd i gyd.
3 Mae'n gwneud i bobloedd ymostwng i ni;
ni sy'n eu rheoli nhw.
4 Dewisodd dir yn etifeddiaeth i ni —
tir i Jacob, y bobl mae wedi eu caru, ymfalchïo ynddo.
Saib
5 Mae Duw wedi esgyn i'w orsedd, a'r dyrfa'n gweiddi'n llawen.
Aeth yr
ARGLWYDD i fyny, a'r corn hwrdd Ref yn seinio!Canwch fawl i'n brenin ni, canwch!
7 Ydy, mae Duw yn frenin dros y byd i gyd;
Canwch gân hyfryd iddo!
8 Mae Duw yn teyrnasu dros y cenhedloedd!
Mae e'n eistedd ar ei orsedd sanctaidd!
9 Mae tywysogion y bobloedd wedi ymgasglu
gyda phobl Duw Abraham.
Mae awdurdod Duw dros lywodraethwyr Ref y byd;
Mae e ymhell uwch eu pennau nhw i gyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity