|
|
Cân. Salm gan feibion Cora.
ARGLWYDD mor fawrac mae'n haeddu ei foli!
Yn ninas ein Duw
ar ei fynydd cysegredig —
2 y copa hardd sy'n gwneud yr holl fyd yn hapus.
Mynydd Seion, sydd fel copaon Saffon Ref ,
ydy dinas y Brenin mawr.
3 Mae Duw yn byw yn ei chaerau,
ac mae'n adnabyddus fel caer ddiogel.
4 Edrychwch! Mae brenhinoedd yn ffurfio cynghrair,
ac yn dod i ymosod gyda'i gilydd.
5 Ond ar ôl ei gweld roedden nhw'n fud,
wedi dychryn am eu bywydau,
ac yn dianc mewn panig!
6 Roedden nhw'n crynu trwyddynt,
ac yn gwingo fel gwraig yn geni plentyn,
7 neu longau Tarshish yn cael eu dryllio
gan wynt y dwyrain.
i'r math o beth y clywson ni amdano;
yn ninas yr
ARGLWYDD holl-bwerus,sef dinas ein Duw —
mae e wedi ei gwneud hi'n ddiogel am byth!
Saib
9 O Dduw, dŷn ni wedi bod yn myfyrio yn dy deml
am dy ofal ffyddlon.
10 O Dduw, rwyt ti'n enwog drwy'r byd i gyd,
ac yn haeddu dy foli!
Rwyt ti yn sicrhau cyfiawnder.
11 Mae mynydd Seion yn gorfoleddu!
Mae pentrefi Jwda yn llawen,
o achos beth wnest ti.
dos reit rownd!
Cyfra'r tyrau,
13 edrych yn fanwl ar ei waliau,
a dos drwy ei chaerau,
er mwyn i ti allu dweud wrth y genhedlaeth nesa.
14 Dyma sut un ydy Duw, ein Duw ni, bob amser.
Bydd e'n ein harwain ni tra byddwn ni byw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity