|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan feibion Cora.
1 Gwrandwch ar hyn, chi'r bobloedd;
clywch, bawb drwy'r byd i gyd —
yn gyfoethog ac yn dlawd.
3 Dw i'n mynd i rannu doethineb gyda chi,
a dweud pethau dwfn.
4 Dw i'n mynd i ddysgu cân am ddoethineb,
a'i chanu i gyfeiliant y delyn.
5 Pam ddylwn i ofni'r amserau anodd
pan mae drygioni'r rhai sy'n twyllo yn fy mygwth?
6 Maen nhw'n dibynnu ar eu cyfoeth,
ac yn brolio'r holl bethau sydd ganddyn nhw.
7 Ond all dyn ddim ei ryddhau ei hun,
na thalu i Dduw i'w ollwng yn rhydd!
8 (Mae pris bywyd yn rhy uchel;
waeth iddo adael y mater am byth!)
9 Ydy e'n mynd i allu byw am byth,
a pheidio gweld y bedd?
10 Na, mae hyd yn oed pobl ddoeth yn marw!
Mae bywyd ffyliaid gwyllt yn dod i ben,
ac maen nhw'n gadael eu cyfoeth i eraill.
11 Maen nhw'n aros yn eu beddau am byth;
byddan nhw yno ar hyd y cenedlaethau.
Mae pobl gyfoethog yn enwi tiroedd ar eu holau,
12 ond dydyn nhw eu hunain ddim yn aros.
Maen nhw, fel yr anifeiliaid, yn marw.
13 Dyna ydy tynged y rhai ffôl,
a diwedd pawb sy'n dilyn eu syniadau.
Saib
14 Maen nhw'n cael eu gyrru i Annwn Ref fel defaid;
a marwolaeth yn eu bugeilio nhw.
Bydd y duwiol yn teyrnasu drostyn nhw pan ddaw'r wawr.
Bydd y bedd yn llyncu eu cyrff;
fyddan nhw ddim yn byw yn eu tai crand ddim mwy.
15 Ond bydd Duw yn achub fy mywyd i o grafangau'r bedd;
bydd e'n dal gafael ynof fi!
Saib
16 Paid poeni pan mae dyn yn dod yn gyfoethog,
ac yn ennill mwy a mwy o eiddo.
17 Pan fydd e'n marw fydd e'n cymryd dim gydag e!
Fydd ei gyfoeth ddim yn ei ddilyn i lawr i'r bedd!
18 Gall longyfarch ei hun yn ystod ei fywyd
— “Mae pobl yn fy edmygu i am wneud mor dda” —
19 Ond bydd yntau'n mynd at ei hynafiaid,
a fyddan nhw byth yn gweld golau ddydd eto.
20 Dydy pobl gyfoethog ddim yn deall;
maen nhw, fel anifeiliaid, yn marw.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity