|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Dafydd, ar ôl i'r proffwyd Nathan fynd ato a'i geryddu am gysgu gyda Bathseba.Croes
1 O Dduw, dangos drugaredd ata i;
rwyt ti mor llawn cariad.
Gan dy fod ti mor barod i dosturio,
wnei di ddileu y gwrthryfel oedd yno i?
2 Golcha'r drygioni ohono i'n llwyr,
a pura fi o'm pechod.
3 Dw i'n cyfaddef mod i wedi tynnu'n groes,
a dw i'n ymwybodol iawn o'm methiant.
4 Yn dy erbyn di dw i wedi pechu, ie, dim ond ti,
a gwneud beth sy'n ddrwg yn dy olwg.
Mae beth rwyt ti'n ddweud yn hollol deg,
ac rwyt ti'n iawn i'm cosbi i.
5 Y gwir ydy, ces fy ngeni'n bechadur;
roedd y pechod yno pan wnaeth mam feichiogi arna i.
6 Ond rwyt ti eisiau gonestrwydd y tu mewn;
rwyt ti eisiau i mi fod yn ddoeth.
7 Pura fi ag isop, i'm gwneud yn hollol lân;
golcha fi, nes bydda i'n lanach nag eira.
8 Gad i mi wybod beth ydy bod yn hapus eto;
rwyt ti wedi malu fy esgyrn — gad i mi lawenhau eto.
9 Paid edrych ar fy mhechodau i;
dilea'r drygioni i gyd.
10 Crea galon lân yno i, O Dduw;
a rhoi ysbryd penderfynol i mi unwaith eto.
11 Paid taflu fi i ffwrdd oddi wrthot ti,
na chymryd dy Ysbryd Glân oddi arna i.
12 Gad i mi brofi'r wefr eto o gael fy achub gen ti;
a gwna fi'n awyddus i fod yn ufudd i ti.
13 Wedyn bydda i'n dysgu'r rhai sy'n gwrthryfela i dy ddilyn di,
a bydd pechaduriaid yn troi atat ti.
14 Maddau i mi am fod wedi tywallt gwaed, O Dduw.
Ti ydy'r Duw sy'n fy achub i,
a bydda i'n canu am dy faddeuant di.
ARGLWYDD, agor fy ngeg,i mi gael dy foli.
16 Nid aberthau sy'n dy blesio di;
a dydy offrwm i'w losgi ddim yn dy fodloni di.
17 Yr aberthau wyt ti eisiau ydy ysbryd wedi ei ddryllio,
calon wedi ei thorri, ac ysbryd sy'n edifar —
Wnei di ddim diystyru peth felly, O Dduw.
18 Gwna i Seion lwyddo! Helpa hi!
Adeilada waliau Jerwsalem unwaith eto!
19 Wedyn bydd aberthau sy'n cael eu cyflwyno'n iawn,
ac offrymau cyflawn i'w llosgi, yn dy blesio di;
a bydd teirw yn cael eu hoffrymu ar dy allor di.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity