|
|
I'r arweinydd cerdd: Mascîl. Salm gan Dafydd, pan aeth Doeg o Edom at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd wedi dod i dŷ Achimelech.”Croes
1 Wyt ti'n falch o'r drwg wnest ti,
ac yn meddwl dy fod ti'n dipyn o arwr?
Wel, dw i'n gwybod fod Duw yn ffyddlon!
2 Rwyt ti'n cynllwynio dinistr,
ac mae dy dafod di fel rasel finiog, y twyllwr!
3 Mae drwg yn well na da gen ti,
a chelwydd yn well na dweud y gwir.
Saib
4 Ti'n hoffi dweud pethau sy'n gwneud niwed i bobl,
ac yn twyllo pobl.
5 Ond bydd Duw yn dy daro i lawr unwaith ac am byth!
Bydd yn dy gipio allan o dy babell,
ac yn dy lusgo i ffwrdd o dir y byw.
Saib
6 Bydd y rhai sy'n iawn gyda Duw yn gweld y peth,
ac wedi eu syfrdanu.
Byddan nhw'n chwerthin ar dy ben, ac yn dweud,
7 “Edrychwch! Dyma'r dyn oedd yn gwrthod troi at Dduw am help!
Y dyn oedd yn pwyso ar ei gyfoeth,
ac yn meddwl ei fod yn dipyn o foi yn dinistrio pobl eraill!”
8 Ond dw i'n llwyddo fel coeden olewydd sy'n tyfu yn nhŷ Dduw!
Dw i'n trystio Duw am ei fod yn ffyddlon bob amser.
9 Bydda i'n dy foli di am byth, O Dduw,
am beth rwyt ti wedi ei wneud.
Dw i'n mynd i obeithio yn dy enw di.
Mae'r rhai sy'n ffyddlon i ti yn gwybod mor dda wyt ti!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity