|
|
(Salm 14)
I'r arweinydd cerdd: Mascîl ar yr alaw “Machalath”. Salm Dafydd.
1 Dim ond ffŵl sy'n meddwl wrtho'i hun,
“Dydy Duw ddim yn bodoli.”
Mae pobl yn gwneud pob math o bethau ffiaidd.
Does neb yn gwneud daioni!
2 Mae Duw yn edrych i lawr o'r nefoedd ar y ddynoliaeth
i weld os oes unrhyw un call;
unrhyw un sy'n ceisio Duw.
3 Ond mae pawb wedi troi cefn arno,
ac yn gwbl lygredig.
Does neb yn gwneud daioni —
dim un!
4 Ydyn nhw wir mor dwp? — yr holl rhai drwg
sy'n llarpio fy mhobl fel taen nhw'n llowcio bwyd.
a byth yn galw ar yr
ARGLWYDD?5 Byddan nhw'n dychryn am eu bywydau
— fuodd erioed y fath beth o'r blaen —
Bydd Duw yn chwalu esgyrn y rhai sy'n ymosod arnat ti.
Byddi di'n codi cywilydd arnyn nhw,
am fod Duw wedi eu gwrthod nhw.
6 O dw i eisiau i'r un sy'n achub Israel ddod o Seion!
Pan fydd Duw yn troi'r sefyllfa rownd
bydd Jacob yn gorfoleddu,
a bydd Israel mor hapus!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity