|
|
I'r arweinydd cerdd: Mascîl i gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm gan Dafydd, pan aeth pobl Siff at Saul a dweud wrtho, “Mae Dafydd yn cuddio gyda ni.”Croes
Amddiffyn fi gyda dy holl nerth.
2 O Dduw, gwrando ar fy ngweddi!
Clyw beth dw i'n ddweud.
3 Mae pobl estron wedi troi yn fy erbyn i.
Mae dynion creulon am fy lladd i.
Does dim bwys ganddyn nhw am Dduw.
Saib
4 Ond Duw ydy'r un sy'n fy helpu i.
Yr
ARGLWYDD sy'n fy nghadw i'n fyw.5 Tro fwriadau drwg y gelynion yn eu herbyn!
Dinistria nhw, fel rwyt wedi addo gwneud.
6 Wedyn bydda i'n dod ag offrwm gwirfoddol i'w aberthu i ti.
Bydda i'n moli dy enw di,
ARGLWYDD, am dy fod mor dda!7 Ie, rwyt yn fy achub o'm holl drafferthion;
dw i'n gweld fy ngelynion yn cael eu gorchfygu!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity