|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Colomen ar Goed Derw Pell”. Wedi ei hysgrifennu gan Dafydd ar ôl iddo gael ei ddal gan y Philistiaid yn Gath.Croes
1 Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dw i'n cael fy erlid!
Mae'r gelynion yn ymosod arna i drwy'r amser.
2 Maen nhw'n fy ngwylio i ac yn fy erlid i'n ddi-baid.
Mae cymaint ohonyn nhw yn ymladd yn fy erbyn!
O Dduw, y Goruchaf.
3 Pan mae gen i ofn, dw i'n dy drystio di —
4 Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!
Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
5 Maen nhw'n twistio fy ngeiriau
a dim ond eisiau gwneud niwed i mi.
6 Maen nhw'n dod at ei gilydd i ysbïo arna i.
Maen nhw'n gwylio pob symudiad,
ac yn edrych am gyfle i'm lladd.
7 Wyt ti'n mynd i adael iddyn nhw lwyddo?
Bwrw nhw i lawr yn dy ddig, O Dduw!
8 Ti'n cadw cofnod bob tro dw i'n ochneidio.
Ti'n casglu fy nagrau mewn costrel.
Mae'r cwbl wedi ei ysgrifennu yn dy lyfr.
9 Bydd y gelyn yn ffoi pan fydda i'n galw arnat ti.
Achos dw i'n gwybod un peth —
mae Duw ar fy ochr i.
10 Duw, yr un dw i'n gwybod sy'n cadw ei air!
Yr
ARGLWYDD — dw i'n gwybod ei fod yn cadw ei air!11 Dw i'n trystio Duw, does gen i ddim ofn.
Beth all dynion meidrol ei wneud i mi?
12 Dw i'n mynd i gadw fy addewidion, O Dduw,
a chyflwyno offrymau diolch i ti.
a chadw fy nhraed rhag llithro.
Dw i'n gallu byw i ti, O Dduw,
a mwynhau goleuni bywyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity