|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Paid dinistrio”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd wedi ffoi rhag Saul i'r ogof.Croes
1 Dangos drugaredd ata i, O Dduw,
dangos drugaredd ata i!
Dw i'n troi atat ti am loches.
Dw i am guddio dan dy adenydd di
nes bydd y storm yma wedi mynd heibio.
2 Dw i'n galw ar Dduw, y Goruchaf;
ar y Duw sydd mor dda tuag ata i.
3 Bydd yn anfon help o'r nefoedd i'm hachub.
Bydd yn herio y rhai sy'n fy erlid.
Saib
Bydd yn dangos ei ofal ffyddlon amdana i!
4 Mae llewod ffyrnig o'm cwmpas i ym mhobman,
rhai sy'n bwyta pobl —
Mae eu dannedd fel picellau neu saethau,
a'u tafodau fel cleddyfau miniog.
5 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
6 Maen nhw wedi gosod rhwyd i geisio fy nal —
a minnau'n isel fy ysbryd.
Maen nhw wedi cloddio twll ar fy nghyfer i,
ond nhw fydd yn syrthio i mewn iddo!
Saib
dw i'n hollol benderfynol!
Dw i'n mynd i ganu mawl i ti!
Deffro, nabl a thelyn!
Dw i'n mynd i ddeffro'r wawr gyda'm cân.
9 Dw i'n mynd i ddiolch i ti, O
ARGLWYDD, o flaen pawb!Dw i'n mynd i ganu mawl i ti o flaen pobl o bob cenedl!
10 Mae dy gariad di mor uchel â'r nefoedd,
a dy ffyddlondeb di yn uwch na'r cymylau.
11 Dangos dy hun yn uwch na'r nefoedd, O Dduw,
i dy ysblander gael ei weld drwy'r byd i gyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity