|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Paid dinistrio”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd.
1 Chi arweinwyr, ydych chi'n rhoi dedfryd gyfiawn?
Ydych chi'n barnu pobl yn deg?
ac yn lledu trais ym mhobman.
3 Mae rhai drwg felly yn troi cefn ers cael eu geni;
yn dweud celwydd a mynd eu ffordd eu hunain o'r dechrau.
4 Maen nhw'n brathu fel neidr wenwynig,
neu gobra sy'n cau ei chlustiau.
5 Mae'n gwrthod gwrando ar alaw y swynwr,
er mor hyfryd ydy'r alaw i'w hudo.
6 Torra eu dannedd nhw, O Dduw!
Dryllia ddannedd y llewod ifanc,
ARGLWYDD.7 Gwna iddyn nhw ddiflannu fel dŵr mewn tir sych;
gwna iddyn nhw saethu saethau wedi eu torri.
8 Gwna nhw fel ôl malwen yn toddi wrth iddi symud;
neu blentyn wedi marw yn y groth cyn gweld golau dydd!
9 Bydd Duw yn eu hysgubo nhw i ffwrdd fel storm wyllt,
cyn i grochan deimlo gwres tân agored.
10 Bydd y duwiol mor hapus wrth weld dial ar yr annhegwch.
Byddan nhw'n trochi eu traed yng ngwaed y rhai drwg!
“Felly mae'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn cael gwobr!
Mae yna Dduw sydd yn barnu ar y ddaear!”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity