|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Paid dinistrio”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd pan oedd Saul wedi anfon dynion i wylio ei dŷ er mwyn ei ladd.Croes
1 Achub fi rhag fy ngelynion, O Dduw.
Amddiffyn fi rhag y rhai sy'n ymosod arna i.
2 Achub fi rhag y bobl ddrwg yma —
y rhai sy'n ceisio fy lladd i.
Maen nhw'n barod i ymosod.
Mae dynion cas yn disgwyl amdana i,
a minnau heb wneud dim byd
i'w croesi nhw, O
ARGLWYDD.ond maen nhw'n rhuthro i ymosod arna i.
Deffra! Gwna rywbeth i'm helpu!
ARGLWYDD, y Duw holl-bwerus,ti ydy Duw Israel.
Symud! Tyrd i gosbi'r gwledydd!
Paid dangos trugaredd at y bradwyr!
Saib
6 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel y cŵn
sy'n prowla trwy'r ddinas.
7 Mae eu cegau'n glafoerio budreddi,
a'u geiriau creulon fel cleddyfau —
“Pwy sy'n clywed?” medden nhw.
ARGLWYDD, yn chwerthin ar eu pennau.Byddi di'n gwawdio'r cenhedloedd.
9 Ti ydy fy nerth i. Dw i'n disgwyl amdanat ti.
Rwyt ti, O Dduw, fel craig ddiogel i mi.
10 Ti ydy'r Duw ffyddlon fydd yn fy helpu;
byddi'n gadael i mi orfoleddu dros fy ngelynion.
11 Paid lladd nhw'n syth, neu bydd fy mhobl yn anghofio'r wers.
Anfon nhw ar chwâl gyda dy nerth, cyn eu llorio nhw,
O
ARGLWYDD, ein tarian.12 Gad iddyn nhw gael eu baglu
gan eu geiriau pechadurus
a'r pethau drwg maen nhw'n ddweud —
y balchder, y melltithion a'r celwyddau.
Difa nhw'n llwyr!
Yna bydd pawb drwy'r byd i gyd yn gwybod
fod Duw yn teyrnasu dros bobl Jacob.
Saib
14 Maen nhw'n dod allan bob nos, yn udo fel cŵn
sy'n prowla trwy'r ddinas;
15 Maen nhw'n crwydro o gwmpas yn chwilio am fwyd,
ac yn udo nes iddyn nhw gael eu bodloni.
16 Ond bydda i'n canu am dy rym di,
ac yn gweiddi'n llawen bob bore am dy fod mor ffyddlon!
Rwyt ti'n graig saff i mi,
ac yn lle i mi guddio pan dw i mewn trafferthion.
17 Ti ydy fy nerth i, a dw i am ganu mawl i ti!
O Dduw, rwyt fel craig ddiogel i mi — y Duw ffyddlon.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity