|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Lili'r Dystiolaeth”. Salm wedi ei hysgrifennu gan Dafydd (i'w dysgu), pan oedd yn ymladd yn erbyn Syriaid Gogledd Mesopotamia Ref a Syriaid Soba, a Joab yn dod yn ôl ac yn gorchfygu Edom — byddin o ddeuddeg mil — yn Nyffryn yr Halen.Croes
1 O Dduw, rwyt ti wedi'n gwrthod ni
a bylchu ein hamddiffyn.
Buost yn ddig gyda ni.
Plîs adfer ni!
a'i hollti'n agored.
Selia'r holltau, cyn i'r cwbl syrthio!
3 Ti wedi rhoi amser caled i dy bobl;
a rhoi gwin i'w yfed sydd wedi'n gwneud ni'n chwil.
4 Coda faner i'r rhai sy'n dy ddilyn
allu dianc ati rhag saethau'r bwa.
Saib
5 Defnyddia dy gryfder o'n plaid, ac ateb ni
er mwyn i dy rai annwyl gael eu hachub.
6 Mae Duw wedi addo yn ei gysegr:
“Dw i'n mynd i fwynhau rhannu Sichem,
a mesur dyffryn Swccoth.
a Manasse hefyd.
Effraim ydy fy helmed i,
a Jwda ydy'r deyrnwialen.
8 Ond bydd Moab fel powlen ymolchi.
Byddaf yn taflu fy esgid at Edom,
ac yn dathlu ar ôl gorchfygu Philistia!”
9 Pwy sy'n gallu mynd â fi i'r ddinas ddiogel?
Pwy sy'n gallu fy arwain i Edom?
Ond rwyt wedi'n gwrthod ni!
Wyt ti ddim am fynd allan gyda'n byddin, O Dduw?
11 Plîs, helpa ni i wynebu'r gelyn,
achos dydy help dynol yn dda i ddim.
12 Gyda Duw gallwn wneud pethau mawrion —
bydd e'n sathru ein gelynion dan draed!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity