|
|
I'r arweinydd cerdd: I gyfeiliant offerynnau llinynnol. Salm Dafydd.
1 Gwranda arna i'n galw, O Dduw.
Gwranda ar fy ngweddi.
2 Dw i'n galw arnat ti o ben draw'r byd.
Pan dw i'n anobeithio,
arwain fi at graig uchel ddiogel.
3 Achos rwyt ti'n le saff i mi fynd;
yn gaer gref lle all fy ngelynion ddim dod.
4 Gad i mi aros yn dy babell am byth,
yn saff dan gysgod dy adenydd.
Saib
5 O Dduw, clywaist yr addewidion wnes i;
ti wedi rhoi etifeddiaeth i mi gyda'r rhai sy'n dy addoli.
6 Gad i'r brenin fyw am flynyddoedd eto!
Gad iddo fyw am genedlaethau lawer,
7 ac eistedd ar yr orsedd o flaen Duw am byth!
Gwylia drosto gyda dy gariad a dy ofal ffyddlon.
8 Yna byddaf yn canu mawl i dy enw am byth,
wrth i mi gadw fy addewidion i ti bob dydd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity