|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Cyffes”. Salm Dafydd.
1 Ydw, dw i'n disgwyl yn dawel am Dduw;
fe ydy'r un all fy achub i.
2 Ie, fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;
lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
3 Pryd ydych chi'n mynd i stopio ymosod ar ddyn?
Ymosod arno i'w ddifa fel wal sydd ar fin syrthio,
neu ffens sy'n simsan?
4 Ydyn, maen nhw'n cynllunio i'w fwrw i lawr
o'i safle dylanwadol.
Maen nhw wrth eu boddau gyda chelwydd;
maen nhw'n dweud pethau sy'n swnio'n garedig,
ond yn ei felltithio yn eu calonnau.
Saib
5 Ie, disgwyl di'n dawel am Dduw, fy enaid,
achos fe ydy dy obaith di.
6 Fe ydy'r graig lle dw i'n ddiogel;
lle i mi gysgodi sy'n hollol saff.
7 Mae Duw'n edrych ar ôl fy lles i,
ac mae'n rhoi nerth i mi.
Dw i'n gadarn fel y graig,
ac yn hollol saff gyda Duw.
8 Gallwch ei drystio fe bob amser, bobl!
Tywalltwch beth sydd ar eich calon o'i flaen.
Duw ydy'n hafan ddiogel ni.
Saib
9 Dydy pobl gyffredin ddim byd ond anadl;
a pobl bwysig yn ddim ond rhith!
Rhowch nhw ar glorian ac mae hi'n codi! —
maen nhw i gyd yn pwyso llai nag anadl.
10 Peidiwch trystio trais i ennill cyfoeth.
Peidiwch rhoi'ch gobaith mewn lladrad.
Os ydych chi'n ennill cyfoeth mawr
peidiwch dibynnu arno.
11 Un peth mae Duw wedi ei ddweud,
ac mae wedi ei gadarnhau:
Duw ydy'r un nerthol,
ARGLWYDD, ydy'r un ffyddlon,sy'n rhoi i bawb beth maen nhw'n ei haeddu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity