|
|
Salm gan Dafydd, pan oedd yn anialwch Jwda.Croes
Dw i wir yn dy geisio di.
Mae fy enaid yn sychedu amdanat.
Mae fy nghorff yn dyheu amdanat,
fel tir sych ac anial sydd heb ddŵr.
2 Ydw, dw i wedi dy weld di yn y cysegr,
a gweld dy rym a dy ysblander!
3 Profi dy ffyddlondeb di ydy'r peth gorau am fywyd,
ac mae fy ngwefusau'n dy foli di!
4 Dw i'n mynd i dy foli fel yma am weddill fy mywyd;
codi fy nwylo mewn gweddi, a galw ar dy enw.
5 Dw i wedi fy modloni'n llwyr, fel ar ôl bwyta gwledd!
Dw i'n canu mawl i ti â gwefusau llawen.
6 Dw i'n meddwl amdanat wrth orwedd ar fy ngwely,
ac yn myfyrio arnat ti yng nghanol y nos;
7 Dw i'n cofio fel y gwnest ti fy helpu —
ron i'n gorfoleddu,
yn saff dan gysgod dy adenydd.
8 Dw i am lynu'n dynn wrthot ti;
dy law gref di sy'n fy nghynnal i.
9 Bydd y rhai sy'n ceisio fy lladd i
yn mynd i lawr yn ddwfn i'r ddaear.
10 Bydd y rhai sydd am fy nharo gyda'r cleddyf
yn cael eu gadael yn fwyd i siacaliaid.
11 Ond bydd y brenin yn dathlu beth wnaeth Duw.
Bydd pawb sy'n tyngu llw iddo yn gorfoleddu,
pan fydd e'n cau cegau y rhai celwyddog!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity