|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd.
1 Gwranda arna i, O Dduw, wrth i mi swnian.
Amddiffyn fi rhag y gelynion sy'n ymosod.
2 Cuddia fi oddi wrth y mob o ddynion drwg;
y gang sydd ddim ond am godi twrw.
3 Maen nhw'n hogi eu tafodau fel cleddyfau,
ac yn anelu eu geiriau creulon fel saethau.
4 Maen nhw'n cuddio er mwyn saethu'r dieuog —
ei saethu'n ddi-rybudd. Dŷn nhw'n ofni dim.
5 Maen nhw'n annog ei gilydd i wneud drwg,
ac yn siarad am osod trapiau,
gan feddwl, “Does neb yn ein gweld.”
6 Maen nhw'n cynllwynio gyda'i gilydd,
“Y cynllun perffaith!” medden nhw.
(Mae'r galon a'r meddwl dynol mor ddwfn!)
7 Ond bydd Duw yn eu taro nhw gyda'i saeth e;
yn sydyn byddan nhw wedi syrthio.
8 Bydd eu geiriau yn arwain at eu cwymp,
a bydd pawb fydd yn eu gweld yn ysgwyd eu pennau'n syn.
9 Bydd pawb yn sefyll yn syfrdan!
Byddan nhw'n siarad am beth wnaeth Duw,
ac yn dechrau deall sut mae e'n gweithredu.
10 Bydd y rhai sy'n byw'n gywir yn gorfoleddu
yn yr
ARGLWYDD;ac yn dod o hyd i le saff ynddo fe.
Bydd pawb sy'n gwneud beth sy'n iawn yn dathlu.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity