|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. Cân.
1 Safwn yn dawel, a dy addoli yn Seion, O Dduw;
a chyflawni'n haddewidion i ti.
boed i bob person byw ddod atat ti!
3 Pan mae'n holl bechodau yn ein llethu ni,
rwyt ti'n maddau'r gwrthryfel i gyd.
4 Y fath fendith sydd i'r rhai rwyt ti'n eu dewis,
a'u gwahodd i dreulio amser yn iard dy deml.
Llenwa ni â bendithion dy dŷ,
sef dy deml sanctaidd!
5 Ti'n gwneud pethau syfrdanol i wneud pethau'n iawn,
a'n hateb O Dduw, ein hachubwr.
Mae pobl drwy'r byd i gyd,
ac ymhell dros y môr, yn dibynnu arnat ti.
6 Ti, yn dy nerth, roddodd y mynyddoedd yn eu lle;
Rwyt ti mor gryf!
7 Ti sy'n tawelu'r môr stormus,
a'i donnau gwyllt,
a'r holl bobloedd sy'n codi terfysg.
wedi eu syfrdanu gan dy weithredoedd.
O'r dwyrain i'r gorllewin
maen nhw'n gweiddi'n llawen.
9 Ti'n gofalu am y ddaear, yn ei dyfrio
a'i gwneud yn hynod ffrwythlon.
Mae'r sianel ddwyfol yn gorlifo o ddŵr!
Ti'n rhoi ŷd i bobl
drwy baratoi'r tir fel yma.
ac mae dŵr yn llifo i'r rhychau.
Ti'n mwydo'r tir â chawodydd,
ac yn bendithio'r cnwd sy'n tyfu.
11 Dy ddaioni di sy'n coroni'r flwyddyn!
Mae dy lwybrau'n diferu digonedd!
12 Mae hyd yn oed porfa'r anialwch yn diferu.
a'r bryniau wedi eu gwisgo â llawenydd!
13 Mae'r caeau wedi eu gorchuddio gyda defaid a geifr,
a'r dyffrynnoedd yn gwisgo mantell o ŷd.
Maen nhw'n gweiddi ac yn canu'n llawen.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity