|
|
I'r arweinydd cerdd: Cân. Salm.
holl bobl y byd!
2 Canwch gân i ddweud mor wych ydy e,
a'i foli'n hyfryd.
“Mae dy weithredoedd di mor syfrdanol!
Am dy fod ti mor rymus mae dy elynion yn crynu o dy flaen.
4 Mae'r byd i gyd yn dy addoli,
ac yn canu mawl i ti!
Maen nhw'n dy foli di ar gân!”
Saib
5 Dewch i weld beth wnaeth Duw.
Mae'r hyn wna ar ran pobl yn syfrdanol.
a dyma nhw'n cerdded drwy'r afon!
Gadewch i ni ddathlu'r peth!
7 Mae e'n dal i deyrnasu yn ei nerth,
ac mae'n cadw ei lygaid ar y cenhedloedd;
felly peidiwch gwrthryfela a chodi yn ei erbyn.
Saib
8 O bobloedd, bendithiwch ein Duw ni;
gadewch i ni glywed pobl yn ei foli!
dydy e ddim wedi gadael i'n traed lithro.
10 Ti wedi ein profi ni, O Dduw,
a'n puro ni fel arian mewn ffwrnais.
11 Ti wedi ein dal ni mewn rhwyd,
a gwneud i ni ddioddef baich trwm.
12 Ti wedi gadael i bobl farchogaeth troson ni.
Dŷn ni wedi bod trwy ddŵr a thân,
ond ti wedi dod â ni trwy'r cwbl i brofi digonedd.
13 Dw i'n dod i dy deml ag offrymau llosg
ac yn cadw fy addewidion,
14 drwy wneud popeth wnes i addo
pan oeddwn i mewn trafferthion.
15 Dw i'n dod ag anifeiliaid wedi eu pesgi yn offrymau llosg —
arogl hyrddod yn cael eu llosgi,
teirw a bychod geifr yn cael eu haberthu.
Saib
16 Dewch i wrando, chi sy'n addoli Duw,
i mi ddweud wrthoch chi beth wnaeth e i mi.
17 Dyma fi'n gweiddi'n uchel arno am help
— roeddwn i'n barod i'w foli.
18 Petawn i'n euog o feddwl yn ddrwg amdano,
fyddai'r
ARGLWYDD ddim wedi gwrando arna i.a gwrando ar fy ngweddi.
Wnaeth e ddim diystyru fy ngweddi,
na bod yn anffyddlon i mi.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity