|
|
I'r arweinydd cerdd: Cân i gyfeiliant offerynnol. Salm.
1 O Dduw, dangos drugaredd aton ni a'n bendithio ni.
Bydd yn garedig wrthon ni.
Saib
2 Wedyn bydd pawb drwy'r byd yn gwybod sut un wyt ti;
bydd y gwledydd i gyd yn gwybod dy fod ti'n gallu achub.
3 Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
4 Bydd y cenhedloedd yn dathlu ac yn gweiddi'n llawen,
am dy fod ti'n barnu'n hollol deg,
ac yn arwain cenhedloedd y ddaear.
Saib
5 Bydd pobloedd yn dy foli, O Dduw;
bydd y bobloedd i gyd yn dy foli di!
6 Mae'r tir yn rhoi ei gynhaeaf i ni!
O Dduw, ein Duw, dal ati i'n bendithio.
Wedyn bydd pobl drwy'r byd i gyd
yn dy addoli.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity