|
|
Salm alar gan Dafydd. Canodd hi i'r
ARGLWYDD am Cwsh, un o lwyth Benjamin. ARGLWYDD, fy Nuw, dw i'n troi atat ti am loches.Helpa fi i ddianc oddi wrth y rhai sy'n fy erlid. Achub fi,
2 rhag iddyn nhw, fel llew, fy rhwygo'n ddarnau,
ie, yn ddarnau mân, nes bod neb yn gallu fy achub.
ARGLWYDD, fy Nuw, os ydy e'n wir —os ydw i'n euog o wneud drwg,
4 os ydw i wedi bradychu fy ffrind,
(ie fi, yr un a achubodd fy ngelyn am ddim gwobr!)
5 yna gad i'r gelyn ddod ar fy ôl i, a'm dal i.
Gad iddo fy sathru dan draed,
a'm gadael i orwedd mewn cywilydd ar lawr.
Saib
ARGLWYDD! Dangos dy fod ti'n ddig,a sefyll yn erbyn ymosodiadau ffyrnig y gelyn!
Symud! Tyrd i ymladd ar fy rhan i,
a dangos sut rwyt ti'n mynd i'w barnu nhw!
7 Mae'r bobloedd wedi ymgasglu o dy gwmpas;
eistedd di ar dy orsedd uwch eu pennau!
ARGLWYDD yn barnu'r cenhedloedd!Achub fy ngham, O
ARGLWYDD,achos dw i wedi gwneud beth sy'n iawn. Dw i ddim ar fai.
9 O Dduw cyfiawn, yr un sy'n treiddio'r meddwl a'r gydwybod,
stopia'r holl ddrygioni mae pobl yn ei wneud.
Ond gwna'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn yn gadarn.
10 Mae'r Duw mawr fel tarian i mi;
mae'n achub yr un sy'n byw'n iawn.
ond mae'n dangos bob dydd ei fod wedi digio
12 wrth y rhai sydd ddim yn troi cefn ar bechod.
Mae'n rhoi min ar ei gleddyf,
yn plygu ei fwa ac yn anelu.
ac yn defnyddio saethau tanllyd
i ymladd yn eu herbyn.
14 Edrychwch! Mae'r dyn drwg wrthi eto!
Mae'n feichiog o ddrygioni,
ac yn geni dim byd ond twyll!
15 Ond ar ôl cloddio twll dwfn i eraill,
bydd yn syrthio i'w drap ei hun!
16 Bydd y drwg mae'n ei wneud yn ei daro'n ôl;
a'i drais yn ei fwrw ar ei dalcen.
ARGLWYDD am fod mor gyfiawn,ac yn canu emyn o fawl i enw'r
ARGLWYDD Goruchaf.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity