|
|
(Salm 40:13-17)
I'r arweinydd cerdd: Salm Dafydd. I'th atgoffa.
O
ARGLWYDD, brysia i'm helpu!2 Gwna i'r rhai sydd am fy lladd i
deimlo embaras a chywilydd.
Gwna i'r rhai sydd am wneud niwed i mi
droi yn ôl mewn cywilydd.
3 Gwna i'r rhai sy'n chwerthin ar fy mhen
droi yn ôl mewn cywilydd.
4 Ond gwna i bawb sy'n dy geisio di ddathlu'n llawen!
Gwna i'r rhai sy'n mwynhau dy weld ti'n achub ddweud,
“Mae Duw mor fawr!”
5 Dw i mewn angen ac yn ddiamddiffyn;
O Dduw, brysia ata i!
Ti ydy'r un sy'n gallu fy helpu a'm hachub.
O
ARGLWYDD, paid oedi!Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity