|
|
1 Dw i'n troi atat ti am loches, O
ARGLWYDD;paid gadael i mi gael fy siomi.
2 Rwyt ti'n gyfiawn, felly achub fi a gollwng fi'n rhydd.
Gwranda arna i! Achub fi!
3 Bydd yn graig i mi gysgodi tani —
yn gaer lle bydda i'n hollol saff!
Ti ydy'r graig ddiogel yna; ti ydy'r gaer.
4 Fy Nuw, achub fi o ddwylo'r rhai drwg,
ac o afael y rhai anghyfiawn a chreulon.
fy meistr, fy
ARGLWYDD.Dw i wedi dy drystio di ers pan o'n i'n ifanc.
6 Dw i'n dibynnu arnat ti ers cyn i mi gael fy ngeni;
ti wedi gofalu amdana i o groth fy mam;
a ti ydy testun fy mawl bob amser.
7 Dw i wedi bod yn destun rhyfeddod i lawer,
am dy fod ti wedi bod yn lle saff, cadarn i mi.
8 Dw i'n dy foli di drwy'r adeg,
ac yn dy ganmol drwy'r dydd.
9 Paid taflu fi ffwrdd yn fy henaint;
a'm gadael wrth i'r corff wanhau!
10 Mae fy ngelynion yn siarad amdana i;
a'r rhai sy'n gwylio fy mywyd yn cynllwynio.
11 “Mae Duw wedi ei adael.” medden nhw;
“Ewch ar ei ôl a'i ddal;
fydd neb yn dod i'w achub!”
12 O Dduw, paid mynd yn rhy bell!
Fy Nuw, brysia i'm helpu i!
13 Gad i'r rhai sy'n fy erbyn i gael eu cywilyddio'n llwyr.
Gad i'r rhai sydd am wneud niwed i mi
gael eu gwisgo mewn gwarth a chywilydd!
14 Ond bydda i'n gobeithio bob amser,
ac yn dal ati i dy foli di fwy a mwy.
15 Bydda i'n dweud am dy gyfiawnder.
Bydda i'n sôn yn ddi-baid am y ffordd rwyt ti'n achub;
Mae cymaint i'w ddweud!
16 Dw i'n dod i ddweud am y pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud
— fy meistr, fy
ARGLWYDD —a dathlu'r ffaith dy fod mor gyfiawn — ie, ti yn unig!
17 O Dduw, dw i wedi profi'r peth ers pan yn ifanc,
ac wedi bod yn sôn am y pethau rhyfeddol
rwyt ti'n eu gwneud hyd heddiw.
18 Dw i bellach yn hen a'm gwallt yn wyn,
ond paid gadael fi nawr, O Dduw.
Dw i eisiau dweud wrth y genhedlaeth sydd i ddod
am dy gryfder a'r pethau mawr rwyt ti'n eu gwneud.
19 Mae dy gyfiawnder yn cyrraedd y nefoedd, O Dduw!
Ti wedi gwneud pethau mor fawr —
O Dduw, does neb tebyg i ti!
20 Er i ti adael i mi wynebu pob math o brofiadau chwerw,
wnei di adael i mi fyw eto?
Wnei di fy nghodi eto o ddyfnderoedd y ddaear?
Cysura fi unwaith eto.
22 Yna byddaf yn dy foli gyda'r nabl,
a chanmol dy ffyddlondeb, O fy Nuw!
Bydda i'n canu i ti gyda'r delyn,
O Un Sanctaidd Israel.
23 Bydda i'n gweiddi'n llawen,
ac yn canu i ti go iawn —
ie, â'm holl nerth, am i ti ngollwng i'n rhydd.
24 Fydda i ddim yn stopio sôn am dy gyfiawnder.
Bydd y rhai oedd am wneud niwed i mi yn cael eu siomi a'u cywilyddio!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity