|
|
Gan Solomon.
1 O Dduw, rho'r gallu i'r brenin i farnu'n deg,
a gwna i fab y brenin wneud beth sy'n iawn.
2 Helpa fe i farnu'r bobl yn ddiduedd,
a thrin dy bobl anghenus yn iawn.
3 Boed i'r mynyddoedd gyhoeddi heddwch
a'r bryniau gyfiawnder i'r bobl.
4 Bydd e'n amddiffyn achos pobl dlawd,
yn achub pawb sydd mewn angen
ac yn cosbi'r rhai sy'n eu cam-drin.
5 Bydd pobl yn dy addoli tra bydd haul yn yr awyr,
a'r lleuad yn goleuo, o un genhedlaeth i'r llall.
6 Bydd fel glaw mân yn disgyn ar dir ffrwythlon,
neu gawodydd trwm yn dyfrhau y tir.
7 Gwna i gyfiawnder lwyddo yn ei ddyddiau,
ac i heddwch gynyddu tra bo'r lleuad yn yr awyr.
8 Boed iddo deyrnasu o fôr i fôr,
ac o'r Afon Ewffrates i ben draw'r byd!
9 Gwna i lwythau'r anialwch blygu o'i flaen,
ac i'w elynion lyfu'r llwch.
10 Bydd brenhinoedd Tarshish Ref a'r ynysoedd yn talu trethi iddo;
brenhinoedd Sheba a Seba Ref yn dod â rhoddion iddo.
11 Bydd y brenhinoedd i gyd yn plygu o'i flaen,
a'r cenhedloedd i gyd yn ei wasanaethu.
12 Mae'n achub y rhai sy'n galw arno mewn angen,
a'r tlawd sydd heb neb i'w helpu.
13 Mae'n gofalu am y gwan a'r anghenus,
ac yn achub y tlodion.
14 Mae'n eu rhyddhau nhw o afael gormes a thrais;
mae eu bywyd nhw'n werthfawr yn ei olwg.
Boed iddo dderbyn aur o Sheba;
Boed i bobl weddïo drosto'n ddi-baid
a dymuno bendith Duw arno bob amser.
16 Boed digonedd o ŷd yn y wlad —
yn tyfu hyd at ben y mynyddoedd!
Boed i'r cnydau lwyddo fel coed Libanus!
Boed i bobl y trefi ffynnu fel glaswellt!
17 Boed iddo fod yn enwog am byth;
a boed i'w linach aros tra bod haul yn yr awyr!
Boed i bobl gael eu bendithio trwyddo,
ac i genhedloedd weld mor hapus ydy e.
ARGLWYDD Dduw!Duw Israel, yr unig un sy'n gwneud pethau rhyfeddol!
19 Bendigedig fyddo'i enw gwych am byth!
Boed i'w ysblander lenwi'r byd i gyd!
Ie! Amen ac Amen.
20 Dyma ddiwedd y casgliad yma o weddïau Dafydd fab Jesse.Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity