|
|
I'r arweinydd cerdd: Ar yr alaw “Na ddinistria”. Salm gan Asaff; Cân.
1 Dŷn ni'n diolch i ti, O Dduw;
ie, diolch i ti!
Rwyt ti wrth law bob amser,
ac mae pobl yn sôn am y pethau rhyfeddol rwyt ti'n eu gwneud.
2 Meddai Duw, “Mae amser wedi ei drefnu
pan fydda i'n barnu'n deg.
3 Pan mae'r ddaear a phawb sy'n byw arni yn crynu,
fi sy'n cadw ei cholofnau'n gadarn.
Saib
4 Dw i'n dweud wrth y balch, ‘Peidiwch brolio!’
ac wrth y rhai drwg, ‘Peidiwch bod yn rhy siŵr ohonoch eich hunain!
5 Peidiwch codi eich cyrn yn uchel
a bod mor heriol wrth siarad.’”
6 Nid o'r gorllewin na'r dwyrain,
nac o'r anialwch y daw buddugoliaeth —
fe sy'n tynnu un i lawr ac yn codi un arall.
ARGLWYDDac mae'r gwin ynddi yn ewynnu ac wedi ei gymysgu.
Bydd yn ei dywallt allan,
a bydd y rhai drwg ar y ddaear yn ei yfed —
yn yfed pob diferyn!
9 Ond bydda i'n ei glodfori am byth,
ac yn canu mawl i Dduw Jacob, sy'n dweud,
10 “Bydda i'n torri cyrn y rhai drwg,
ac yn rhoi'r fuddugoliaeth i'r rhai sy'n gwneud beth sy'n iawn.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity