|
|
I'r arweinydd cerdd. Salm gan Asaff i gyfeiliant offerynnol. Cân.
1 Mae pawb yn Jwda'n gwybod am Dduw;
mae ganddo enw da yn Israel.
yn Jerwsalem, dinas heddwch.
3 Dyna ble torrodd e'r saethau tanllyd,
y darian, y cleddyf, a'r holl arfau rhyfel.
Saib
4 Ti ydy'r Un Disglair, yr Un Hardd
sy'n dod i lawr o'r mynyddoedd
ar ôl trechu dy elynion.
5 Cafodd eu milwyr dewr eu hysbeilio!
Maen nhw'n ‘cysgu’ am y tro ola!
Doedd y rhyfelwr cryfaf ddim yn gallu codi bys!
6 Dyma ti'n rhoi bloedd, O Dduw Jacob,
ac roedd pob marchog a gyrrwr cerbyd yn farw.
Pwy sy'n gallu sefyll yn dy erbyn
pan rwyt ti'n ddig?
8 Wrth i ti gyhoeddi dy ddedfryd o'r nefoedd,
roedd y ddaear wedi ei pharlysu gan ofn,
9 wrth weld Duw yn codi i farnu
ac achub y rhai sy'n cael eu cam-drin yn y tir.
Saib
10 Bydd rhai mwyaf ffyrnig y ddaear yn dy gydnabod
pan fyddi'n dangos dy ddigofaint yn llawn.
ARGLWYDD eich Duw, a'u cadw!Boed i bawb sydd o'i gwmpas ddod â rhoddion
i'r Duw sydd i'w ofni!
12 Mae'n torri crib y llywodraethwyr balch,
ac yn dychryn brenhinoedd y ddaear.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity