|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar yr alaw “Cyffes”.
1 Dw i'n gweiddi'n uchel ar Dduw;
yn gweiddi'n uchel ar iddo wrando arna i.
2 Dw i mewn helbul, ac yn troi at yr
ARGLWYDD;dw i wedi bod yn estyn fy nwylo ato mewn gweddi trwy'r nos,
ond ches i ddim cysur.
3 Dw i wedi bod yn ochneidio wrth feddwl am Dduw,
dw i wedi bod yn myfyrio arno — ond yn anobeithio.
Saib
4 Ti sydd wedi fy nghadw i'n effro;
dw i mor boenus, wn i ddim beth i'w ddweud.
5 Dw i wedi bod yn meddwl am yr hen ddyddiau,
flynyddoedd lawer yn ôl.
6 Cofio'r gân roeddwn i'n arfer ei chanu.
Meddwl drwy'r nos am y peth, a chwilio am ateb.
ARGLWYDD wedi troi cefn arnon ni am byth?Ydy e'n mynd i ddangos ei ffafr aton ni eto?
8 Ydy ei ffyddlondeb e wedi dod i ben yn llwyr?
Ydy'r addewidion wnaeth e byth yn mynd i gael eu cyflawni?
9 Ydy Duw wedi anghofio sut i ddangos trugaredd?
Ydy ei ddig yn gryfach na'i dosturi?”
Saib
10 “Mae meddwl y fath beth yn codi cyfog arna i:
fod y Goruchaf wedi newid ei ffyrdd.”
11 Dw i'n mynd i atgoffa fy hun beth wnaeth yr
ARGLWYDD —ydw, dw i'n cofio'r pethau rhyfeddol wnest ti ers talwm!
12 Dw i'n mynd i gofio am bopeth wnest ti,
a myfyrio ar y cwbl.
13 O Dduw, mae dy ffyrdd di yn gwbl unigryw!
Oes yna dduw tebyg i'n Duw ni?
14 Na! Ti ydy'r Duw sy'n gwneud pethau anhygoel!
Ti wedi dangos dy nerth i'r bobloedd i gyd.
15 Ti wnaeth ollwng dy bobl yn rhydd gyda dy fraich gref,
sef disgynyddion Jacob a Joseff.
Saib
16 Dyma'r dyfroedd yn dy weld di, O Dduw,
dyma'r dyfroedd yn dy weld di ac yn cynhyrfu.
Roedd y môr dwfn yn crynu mewn ofn!
17 Roedd y cymylau'n tywallt y glaw;
yr awyr yn taranu,
a dy saethau yn fflachio ym mhobman.
18 Roedd dy lais i'w glywed yn taranu yn y storm;
dy fellt yn goleuo'r byd,
a'r ddaear yn crynu trwyddi.
19 Agoraist ffordd drwy'r môr;
Cerddaist drwy'r dyfroedd cryfion,
er bod neb yn gweld olion dy draed.
20 Dyma ti'n arwain dy bobl fel praidd
dan ofal Moses ac Aaron.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity