|
|
Salm gan Asaff.
1 O Dduw, mae'r gwledydd paganaidd wedi cymryd dy dir.
Maen nhw wedi halogi dy deml sanctaidd
a troi Jerwsalem yn bentwr o gerrig.
2 Maen nhw wedi gadael cyrff dy weision
yn fwyd i'r adar;
a chnawd dy bobl ffyddlon i anifeiliaid gwylltion.
fel dŵr o gwmpas Jerwsalem,
a does neb i gladdu'r cyrff.
4 Dŷn ni'n gyff gwawd i'n cymdogion;
ac yn destun sbort a dirmyg i bawb o'n cwmpas.
ARGLWYDD?Fyddi di'n ddig am byth?
Fydd dy eiddigedd, sy'n llosgi fel tân, byth yn diffodd?
6 Tywallt dy lid ar y bobloedd sydd ddim yn dy nabod
a'r teyrnasoedd hynny sydd ddim yn dy addoli!
7 Nhw ydy'r rhai sydd wedi llarpio Jacob
a dinistrio ei gartref.
8 Aethon ni ar gyfeiliorn, ond paid dal hynny yn ein herbyn.
Brysia! Dangos dosturi aton ni,
achos dŷn ni mewn trafferthion go iawn!
9 Helpa ni, O Dduw ein hachubwr,
er mwyn dy enw da.
Achub ni a maddau ein pechodau,
er mwyn dy enw da.
10 Pam ddylai'r paganiaid gael dweud,
“Ble mae eu Duw nhw?”
Gad i ni dy weld di'n rhoi gwers i'r cenhedloedd,
a talu'n ôl iddyn nhw am dywallt gwaed dy weision.
11 Gwrando ar y carcharorion rhyfel yn griddfan!
Defnyddia dy nerth i arbed
y rhai sydd wedi eu condemnio i farwolaeth!
12 Tala yn ôl yn llawn i'n cymdogion!
Maen nhw wedi dy enllibio di, Feistr.
a phraidd dy borfa,
yn ddiolchgar i ti am byth
ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity