|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm ar yr alaw “Y Gwinwryf”. Salm Dafydd.
ARGLWYDD, ein brenin,mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!
Mae dy ysblander yn gorchuddio'r nefoedd yn gyfan!
2 Gyda lleisiau plant bach a babanod
rwyt yn dangos dy nerth, yn wyneb dy elynion,
i roi diwedd ar y gelyn sy'n hoffi dial.
3 Wrth edrych allan i'r gofod, a gweld gwaith dy fysedd,
y lleuad a'r sêr a osodaist yn eu lle,
4 Beth ydy pobl i ti boeni amdanyn nhw?
Pam cymryd sylw o un person dynol?
5 Rwyt wedi ei wneud ond ychydig is na'r bodau nefol,
ac wedi ei goroni ag ysblander a mawredd!
6 Rwyt wedi ei wneud yn feistr ar waith dy ddwylo,
a gosod popeth dan ei awdurdod —
a hyd yn oed yr anifeiliaid gwylltion;
8 yr adar sy'n hedfan, y pysgod sy'n y môr,
a phopeth arall sy'n teithio ar gerrynt y moroedd.
ARGLWYDD, ein brenin,mae dy enw di mor fawr drwy'r byd i gyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity