|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm gan Asaff ar “Lilïau'r Dystiolaeth”.
sy'n arwain Joseff fel praidd.
Ti sydd wedi dy orseddu uwch ben y ceriwbiaid,
disgleiria
2 o flaen Effraim, Benjamin, a Manasse!Dangos dy nerth i ni, a tyrd i'n hachub!
Gwena'n garedig arnon ni!Croes Achub ni!
ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,am faint mwy rwyt ti'n mynd i fod yn ddig
gyda gweddïau dy bobl?
5 Ti wedi eu bwydo nhw â dagrau,
a gwneud iddyn nhw yfed dagrau wrth y gasgen.
6 Ti wedi troi ein cymdogion yn ein herbyn;
mae'n gelynion yn gwneud sbort ar ein pennau.
7 O Dduw holl-bwerus, adfer ni!
Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
8 Cymeraist winwydden o'r Aifft,
a gyrru cenhedloedd i ffwrdd er mwyn ei thrawsblannu hi.
er mwyn iddi fwrw gwreiddiau
a llenwi'r tir.
10 Roedd ei chysgod dros y mynyddoedd,
a'i changhennau fel rhai coed cedrwydd.
11 Roedd ei changhennau'n cyrraedd at y môr Ref ,
a'i brigau at afon Ewffrates.
12 Pam wnest ti fwrw'r wal o'i chwmpas i lawr,
fel bod pwy bynnag sy'n pasio heibio yn pigo ei ffrwyth?
13 Mae'r baedd gwyllt wedi tyrchu o dani,
a'r pryfed yn bwyta ei dail.
14 O Dduw holl-bwerus, tro yn ôl aton ni!
Edrych i lawr o'r nefoedd
ac archwilia gyflwr dy winwydden!
15 Ti dy hun wnaeth ei phlannu,
a gwneud iddi dyfu.
16 Ond bellach mae hi wedi ei llosgi a'i thorri i lawr!
Mae wedi ei difetha gan dy gerydd di.
17 Nertha'r dyn rwyt wedi ei ddewis;
yr un dynol rwyt wedi ei wneud yn gryf.
18 Wnawn ni ddim troi cefn arnat ti.
Adfywia ni, a byddwn ni'n galw ar dy enw.
ARGLWYDD Dduw holl-bwerus, adfer ni!Gwena'n garedig arnon ni! Achub ni!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity