|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm Asaff, ar yr alaw, “Y Gwinwryf”.
1 Canwch yn llawen i Dduw, ein nerth!
Gwaeddwch yn uchel ar Dduw Jacob!
a chanu'r delyn fwyn a'r nabl!
3 Seiniwch y corn hwrdd Ref ar y lleuad newydd,
ar ddechrau'r Ŵyl pan mae'r lleuad yn llawn.
gorchymyn wedi ei roi gan Dduw Jacob.
5 Rhoddodd hi'n rheol i bobl Joseff
pan ymosododd ar yr Aifft i'w gollwng yn rhydd.
Dw i'n clywed iaith dw i ddim yn ei deall —
6 “Cymerais y baich oddi ar dy ysgwyddau,
a dy ollwng yn rhydd o orfod cario'r fasged.
7 Dyma ti'n gweiddi yn dy argyfwng, a dyma fi'n dy achub;
atebais di o'r lle dirgel ble mae'r taranau.
Yna dy roi ar brawf wrth Ffynnon Meriba.Croes
Saib
8 Gwrandwch, fy mhobl, dw i'n eich rhybuddio chi!
O na fyddet ti'n gwrando arna i, Israel!
9 Dwyt ti ddim i gael duw arall
na phlygu i lawr i addoli duw estron.
ARGLWYDD ydy dy Dduw di.Fi ddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.
Agor dy geg, a bydda i'n dy fwydo!
11 Ond wnaeth fy mhobl ddim gwrando.
Wnaeth Israel ddim ufuddhau i mi;
12 felly dyma fi'n gadael iddyn nhw fod yn ystyfnig
a gwneud beth bynnag roedden nhw eisiau.
13 O na fyddai fy mhobl yn gwrando arna i!
O na fyddai Israel yn fy nilyn i!
14 Byddwn i'n trechu eu gelynion nhw yn syth;
ac yn ymosod ar y rhai sy'n eu gwrthwynebu nhw.”
15 (Boed i'r rhai sy'n casáu'r
ARGLWYDD wingo o'i flaen —dyna eu tynged nhw am byth!)
16 “Byddwn i'n bwydo Israel â'r ŷd gorau;
ac yn dy fodloni gyda mêl o'r graig.”
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity