|
|
Salm gan Asaff.
1 Mae Duw'n sefyll i fyny yn y cyngor dwyfol;
ac yn cyhoeddi dedfryd yng nghanol y ‘duwiau’.
2 “Am faint ydych chi'n mynd i farnu'n anghyfiawn
a dangos ffafr at y rhai sy'n gwneud drwg?”
Saib
3 “Dylech roi dedfryd o blaid y gwan a'r amddifad!
Sefyll dros hawliau y rhai anghenus sy'n cael eu gorthrymu!
4 Cadw'r rhai sy'n wan a di-rym yn saff
a'u hachub nhw o afael pobl ddrwg!”
Maen nhw'n crwydro yn y tywyllwch,
tra mae sylfeini'r ddaear yn ysgwyd!
6 Dywedais, “Duwiau ydych chi”,
“meibion y Duw Goruchaf bob un ohonoch.
7 Ond byddwch yn marw fel pobl feidrol;
byddwch yn syrthio fel unrhyw arweinydd dynol.”
Dy etifeddiaeth di ydy'r cenhedloedd i gyd.
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity