|
|
Cân. Salm gan Asaff.
1 O Dduw, paid bod yn ddistaw!
Paid diystyru ni a gwneud dim!
2 Edrych! Mae dy elynion di'n codi twrw.
Mae'r rhai sy'n dy gasáu di yn codi eu pennau.
3 Maen nhw mor gyfrwys, ac yn cynllwynio yn erbyn dy bobl di.
Maen nhw am wneud niwed i'r rhai rwyt ti'n eu trysori!
4 Maen nhw'n dweud, “Gadewch i ni eu difa nhw'n llwyr!
Fydd dim sôn am genedl Israel byth mwy.”
5 Maen nhw'n unfrydol yn eu bwriad,
ac wedi ffurfio cynghrair yn dy erbyn di —
Moab a'r Hagriaid,
Philistia a phobl Tyrus.
8 Mae Asyria wedi ymuno â nhw hefyd,
i roi help llaw i ddisgynyddion Lot. Ref
Saib
9 Delia gyda nhw fel y gwnest ti gyda MidianCroes —
fel y gwnest ti i Sisera a Jabin,
wrth afon Cison.Croes
10 Cawson nhw eu dinistrio yn En-dor.
Roedd eu cyrff fel tail ar wyneb y tir!
11 Delia gyda'i harweinwyr nhw
fel y gwnest ti gydag Oreb a Seeb.Croes
Gwna eu tywysogion nhw
fel Seba a Tsalmwna,Croes
12 oedd am ddwyn y tir i gyd oddi ar Dduw.
13 O fy Nuw, trin nhw fel plu ysgall,
neu us yn cael ei chwythu gan y gwynt!
14 Difa nhw, fel mae tân yn llosgi coedwig,
a'i fflamau'n lledu dros y bryniau.
15 Dos ar eu hôl nhw â'th storm,
a'u dychryn nhw â'th gorwynt.
a gwna iddyn nhw dy gydnabod di, O
ARGLWYDD.17 Cywilydd a dychryn fydd byth yn dod i ben!
Gad iddyn nhw farw yn eu gwarth!
18 Byddan nhw'n deall wedyn mai ti ydy'r
ARGLWYDD,ie, ti yn unig!
Ti ydy'r Duw Goruchaf sy'n rheoli'r byd i gyd!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity