|
|
I'r arweinydd cerdd: Salm meibion Cora, ar yr alaw, “Y Gwinwryf”.
1 Mae lle rwyt ti'n byw mor hyfryd,
O
ARGLWYDD holl-bwerus!2 Dw i'n hiraethu; ydw, dw i'n ysu
am gael mynd i deml yr
ARGLWYDD.Mae'r cyfan ohono i yn gweiddi'n llawen ar y Duw byw!
3 Mae hyd yn oed aderyn y to wedi gwneud ei gartre yno!
Mae'r wennol wedi gwneud nyth iddi ei hun,
i fagu ei chywion wrth ymyl dy allor di,
O
ARGLWYDD holl-bwerus,fy Mrenin a'm Duw.
4 Y fath fendith sydd i'r rhai sy'n aros yn dy dŷ di!
Y rhai sy'n dy addoli di drwy'r adeg!
Saib
5 Y fath fendith sydd i'r rhai wyt ti'n eu cadw nhw'n saff,
wrth iddyn nhw deithio'n frwd ar bererindod i dy deml!
6 Wrth iddyn nhw basio trwy ddyffryn Bacha,
byddi di wedi ei throi yn llawn ffynhonnau!
Bydd y glaw cynnar Ref wedi tywallt ei fendithion arni.
7 Byddan nhw'n symud ymlaen o nerth i nerth,
a byddan nhw i gyd yn ymddangos o flaen Duw yn Seion.
ARGLWYDD Dduw holl-bwerus,gwrando ar fy ngweddi!
Clyw fi, O Dduw Jacob.
Saib
9 Edrych ar y brenin, ein tarian ni, O Dduw!
Edrych yn ffafriol ar yr un wnest ti ei eneinio.
10 Mae un diwrnod yn dy deml yn well na miloedd rhywle arall!
Byddai'n well gen i aros ar drothwy tŷ fy Nuw
na mynd i loetran yng nghartrefi pobl ddrwg.
ARGLWYDD Dduw yn haul ac yn darian i'n hamddiffyn ni!Mae'r
ARGLWYDD yn garedig ac yn rhannu ei ysblander gyda ni.Mae e'n rhoi popeth da i'r rhai sy'n byw yn onest.
ARGLWYDD holl-bwerus,y fath fendith sydd i rywun sy'n dy drystio di!
Hawlfraint © Gobaith i Gymru 2024, ar ran y Golygydd (golygydd@beibl.net) Elusen Gofrestredig Rhif: 1078107 Diogelir pob hawl.
Mae'r project yn cael ei noddi eleni gan roddion gwirfoddol unigolion ac eglwysi,
Dylunio gan Mike Leach Creative. Gwesteir gan Zanity